Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch o wedi bod yn rhan o’r prosiect CYSYLLTU o’r cychwyn cyntaf. Mae CYSYLLTU wedi ei leoli o fewn yr Adran Gwasanaethau Myfyrwyr a’i brif ffocws yw annog myfyrwyr i edrych ar ôl eu llesiant, mabwysiadu ymddygiadau iach a theimlo’n gysylltiedig. Dros y 18 mis diwethaf mae’r prosiect wedi parhau i dyfu a datblygu nifer o gyfleoedd i staff a myfyrwyr y brifysgol ill dau.
Myfyrwyr
Gwirfoddoli: Mae gyda chi gyfle hefyd i wirfoddoli neu ymgymryd â lleoliad gwaith fel Cysylltydd Myfyrwyr. Drwy wneud hyn gallwch gasglu llawer o brofiadau gwaith gwych a derbyn hyfforddiant Edrych Ar Ôl Eich Mêt Student Minds, a rhagor, am ddim.
Mae gwasanaethau a gweithgareddau CYSYLLTU ar gael i unrhyw fyfyriwr, ar unrhyw gwrs, o unrhyw un o gampysau’r brifysgol. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr rhan-amser, o bell, a’r rhai sy’n jyglo addysg ac ymrwymiadau gwaith neu ofalu. Ni waeth a ydych yn ddysgwr rhan-amser neu o bell, neu’n jyglo addysg gydag ymrwymiadau gwaith a theuluol, mae CYSYLLTU yno i chi.
Staff
Cael cymorth:
Gwirfoddoli a hyfforddiant:
Rydym hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddi i staff. Drwy ddod yn Gysylltydd Staff byddwch yn gallu ymgymryd â hyfforddiant ( 2 ddiwrnod) achrededig am ddim mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, a dod yn rhan o’r Rhwydwaith Cysylltwyr Staff o fewn y brifysgol; sy’n lle i rannu arfer da a’r diweddaraf. Bydd cyfleoedd hyfforddi eraill ar eu ffordd yn fuan.
Os hoffech ragor o wybodaeth, croeso i chi gysylltu â’r tîm CYSYLLTU yn y brifysgol cysylltu-connect@uwtsd.ac.uk