Os ydych yn ofidus neu'n colli gobaith, ceisiwch siarad â rhywun nawr.
Os ydych chi neu unrhyw un arall mewn perygl ar hyn o bryd neu wedi cael niwed, ffoniwch yr Heddlu neu'r Gwasanaeth Ambiwlans ar 999.
Os oes angen cymorth ar unwaith arnoch, mae'n hollbwysig eich bod yn cysylltu â'r person iawn a'ch meddyg teulu yw'r un sy'n fwyaf tebygol o allu helpu. Bydd yn gwybod ble i gael y cymorth arbenigol sydd ei angen arnoch.
Os yw meddygfa'ch meddyg teulu ar gau, bydd y peiriant ateb yn dweud wrthych chi beth i'w wneud neu gallwch ffonio Galw Iechyd Cymru ar 111.Ffoniwch wasanaeth Galw Iechyd Cymru ar 111 os oes angen cymorth neu gyngor meddygol brys arnoch ond nid yw’n sefyllfa beryg bywyd.
Os hoffech chi siarad â rhywun am eich teimladau, eich sefyllfa neu sut i ymdrin ag ymddygiad rhywun arall, gallwch gysylltu â'r Samariaid.
Mae'r Samariaid yn cynnig llinell gymorth 24 awr. Gallwch hefyd gysylltu â nhw drwy e-bost a llythyr.
Ffôn: 116 123 (Y DU)
Llinell Iaith Gymraeg: 0808 164 0123:
Llun - 6pm - 1am
Mawrth 7pm - 11pm
Mercher 2pm - 6pm and 7pm - 1am
Iau 2pm - 6pm and 7pm - 1am
Gwener 7pm - 1am
Sadwrn 7pm - 1am, Sul 7pm - 1am