Wedi’i achredu gan MHFA Cymru, mae’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Bobl Ifanc yn addysgu oedolion sydd mewn cysylltiad rheolaidd â phobl ifanc sut i roi cymorth i unigolion sy’n datblygu problem iechyd meddwl, sy’n profi problem iechyd meddwl sy’n gwaethygu neu sydd mewn argyfwng iechyd meddwl.
Mae’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Bobl Ifanc yn cynnwys:
Problemau iechyd meddwl sy’n datblygu
Iselder
Problemau gorbryder
Anhwylderau bwyta
Seicosis
Problemau camddefnyddio sylweddau
Argyfwng iechyd meddwl:
Meddwl am hunan-laddiad ac ymddygiad cysylltiedig
Hunan-niweidio nad yw’n arwain at hunan-laddiad
Pyliau o banig
Digwyddiadau trawmatig
Cyflyrau seicotig difrifol
Effeithiau difrifol alcohol neu ddefnyddio cyffuriau eraill
Ymddygiad ymosodol
Mae rhagor o wybodaeth am y cwrs yma. Cynhelir y cyrsiau ar-lein ar hyn o bryd ac mae angen i staff gwblhau chwe modiwl ar-lein a dau weminar byw dan arweiniad hyfforddwyr.
Sylwer, mae’r cwrs hwn ar gael i staff sy’n gweithio gyda myfyrwyr yn unig a rhaid iddynt fod yn fodlon dod yn ‘Gysylltwyr Staff’. Os oes gennych chi ddiddordeb yn hyn, darllenwch ddisgrifiad rôl y Cysylltydd Staff a chwblhau mynegiad o ddiddordeb. Gofynnir i chi nodi’r dyddiadau sy’n well gennych chi o’r dyddiadau isod.