Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd i wirfoddoli sydd ar gael i chi gymryd rhan.
Darllenwch y disgrifiadau rôl i gael gwybodaeth am bob cyfle a llenwi ffurflen fynegi diddordeb i wneud cais. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â CYSYLLTU yn eich prifysgol i siarad ag aelod o’r tîm.
Mae Cysylltwyr Myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant llawn i roi cefnogaeth un-i-un gan gymheiriaid i fyfyrwyr syn cael trafferthion gyda'u llesiant. Gallai hyn gynnwys gwrando, rhannu eich profiadau eich hun neu gefnogi myfyrwyr i ddefnyddio gwasanaethau cymorth a gweithgareddau cymdeithasol yn y Brifysgol neu'r gymuned.
Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon, sylwer na fydd hyfforddiant ar gael tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd. Cysylltir Ã'r holl ymgeiswyr pan fydd hyfforddiant yn ailddechrau.
Mae Cysylltwyr Grwp yn derbyn hyfforddiant llawn i gefnogi hwyluso sesiynau llesiant grwp i fyfyrwyr eraill yn y brifysgol. Gan weithio fel tîm, bydd Cysylltwyr Grwp yn creu gweithgareddau ac adnoddau ar gyfer sesiynau llesiant, yn rhannu sgiliau hunan-ofal ymarferol gyda myfyrwyr ac yn cyfeirio at wasanaethau cymorth perthnasol.
Bydd Cysylltwyr y Cyfryngau Cymdeithasol yn gweithio fel tîm bach i ddatblygu cynnwys diddorol î cyfryngau cymdeithasol ar gyfer holl sianeli CYSYLLTU ar y cyfryngau hynny. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr creadigol â sgiliau cyfathrebu cryf a gwybodaeth am iechyd meddwl a llesiant.
Mae'r rôl hon ar gael i staff presennol yn y brifysgol sy'n ymdrin â myfyrwyr. Bydd staff yn derbyn hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i wella eich sgiliau wrth ymateb i faterion llesiant myfyrwyr. Bydd Cysylltwyr Staff yn bwnt cymorth ychwanegol i fyfyrwyr a Chysylltwyr Myfyrwyr a byddant yn helpu i hyrwyddo CYSYLLTU o fewn y Brifysgol.
Mae Cysylltwyr Myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant llawn i roi cefnogaeth un-i-un gan gymheiriaid i fyfyrwyr syn cael trafferthion gyda eu llesiant. Gallai hyn gynnwys gwrando, rhannu eich profiadau eich hun neu gefnogi myfyrwyr i ddefnyddio gwasanaethau cymorth a gweithgareddau cymdeithasol yn y Brifysgol neu'r gymuned.
Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon, sylwer na fydd hyfforddiant ar gael tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd. Cysylltir ar holl ymgeiswyr pan fydd hyfforddiant yn ailddechrau.
Bydd Cysylltwyr y Cyfryngau Cymdeithasol yn gweithio fel tîm bach i ddatblygu cynnwys diddorol î cyfryngau cymdeithasol ar gyfer holl sianeli CYSYLLTU ar y cyfryngau hynny. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr creadigol a sgiliau cyfathrebu cryf a gwybodaeth am iechyd meddwl a llesiant.
Mae'r rôl hon ar gael i staff presennol yn y brifysgol sy’n ymdrin a myfyrwyr. Bydd staff yn derbyn hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i wella eich sgiliau wrth ymateb i faterion llesiant myfyrwyr. Bydd Cysylltwyr Staff yn bwnt cymorth ychwanegol i fyfyrwyr a Chysylltwyr Myfyrwyr a byddant yn helpu i hyrwyddo CYSYLLTU o fewn y Brifysgol.