Ymunwch â grŵp gwau myfyrwyr CYSYLLTU – mae croeso i bob lefel o brofiad!
A wyddech chi y gall gwau roi hwb i’ch hwyliau bob dydd? Mae gwau yn ysgogi’r rhan o’ch ymennydd sy’n ymwneud â sgiliau symud yn ogystal ag ochr greadigol eich ymennydd, gan droi eich pen yn ffatri dopamin, sef yr hormon hapusrwydd!
Os hoffech chi roi cynnig ar wau, dewch draw i’n grŵp gwau myfyrwyr, a arweinir gan aelod profiadol o staff. Croesewir pob lefel o brofiad, p’un a ydych yn ddechreuwr newydd sbon neu’n wëwr profiadol!
Os ydych chi wedi dod i’r grŵp eisoes, dewch â’r gweill/gwlân a roddwyd i chi. Os ydych chi’n newydd i wau, byddwn ni’n rhoi gweill a gwlân i chi. Bydd hefyd opsiynau ar gyfer crosio os yw’n well gennych chi.
Gwyddom y gall fod yn anodd iawn siarad â’ch ffrind am iechyd meddwl. Mae Look After Your Mate yn weithdy rhyngweithiol a luniwyd gan Student Minds i helpu myfyrwyr sydd efallai yn cefnogi ffrind sy’n mynd drwy anawsterau iechyd meddwl, neu i’r rheini a hoffai wybod rhagor am iechyd meddwl.